Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.

Save preferences

Rydym yn chwilio am aelod newydd i Gymru ar y Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau a'r Pwyllgor Cynghori ar Bobl Hŷn a Phobl Anabl

13 December 2019

Cyfarwyddwr Anweithredol: Aelod dros Gymru ar y Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau a'r Pwyllgor Cynghori ar Bobl Hŷn a Phobl Anabl

Pwrpas y swydd

Mae'r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau yn sicrhau bod lleisiau dinasyddion, defnyddwyr a microfusnesau yn cael eu cynrychioli wrth ddatblygu polisïau cyfathrebu yn y DU (polisïau'n ymwneud â thelegyfathrebu, gwasanaethau post a gwasanaethau darlledu ac ar-alw), gan dynnu sylw at fuddiannau pobl nad ydynt bob amser yn cael eu clywed gan y diwydiant.

Mae'r Panel yn gorff statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003. Mae'n grŵp o wyth o arbenigwyr, wedi eu penodi gan Ofcom a'u cymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ac mae ganddyn nhw lawer o wybodaeth a phrofiad yng nghyswllt materion sy'n ymwneud â defnyddwyr yn y sector cyfathrebiadau electronig a thu hwnt. Mae cylch gwaith y Panel yn delio â'r DU ac, yn ôl statud, mae ganddo aelodau sy'n cynrychioli buddiannau defnyddwyr yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Rydyn ni'n bwriadu penodi Aelod newydd i'r Panel, i gynrychioli Cymru, yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol. Bydd yr Aelod o'r Panel hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynghori ar Bobl Hŷn a Phobl Anabl. Mae'r Pwyllgor yn cynghori Ofcom ynghylch buddiannau a safbwyntiau pobl hŷn a phobl anabl sy'n byw yn y Deyrnas Unedig.

Bydd yr aelod newydd o'r Panel/Pwyllgor yn helpu'r Panel i fod yn fwy cyson nag erioed ag anghenion defnyddwyr, dinasyddion a microfusnesau yng Nghymru.

Cymwyseddau hanfodol

Yn eich llythyr eglurhaol nodwch sut y mae gennych chi'r pum cymhwysedd isod:

1. Ymwybyddiaeth o'r materion sy'n effeithio ar y sectorau telegyfathrebu a gwasanaethau post;

 2. Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o'r cyd-destun gwleidyddol a chyfansoddiadol yng Nghymru;

3. Gallu deall materion cymhleth sy'n ymwneud â defnyddwyr, dinasyddion, microfusnesau, rheoleiddio, yr economi a busnes yn ehangach;

4. Arbenigedd a diddordeb brwd mewn deall profiadau defnyddwyr, gan ganolbwyntio'n benodol ar bobl hŷn a phobl anabl yng Nghymru; a

5. Sgiliau cyfathrebu cadarn er mwyn cyfrannu'n effeithiol at y trafodaethau ac at yr ymatebion polisi ffurfiol sydd i'w cael mewn corff cyhoeddus ar lefel uchel.

 
Rhaid i bob ymgeisydd fod yn onest iawn o ran cymeriad a rhaid datgan unrhyw wrthdaro posibl rhwng buddiannau o safbwynt ariannol neu fusnes, a rhaid trafod hynny yn y cyfweliad.

Cyflwynwch gais at RecriwtioOfcomCymru@ofcom.org.uk

gan atodi eich CV a llythyr eglurhaol sy'n ymdrin â'r pum cymhwysedd angenrheidiol uchod.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â contact@communicationsconsumerpanel.org.uk

Rhagor o Wybodaeth

• Mae'r ymrwymiad amser yn 4.5 diwrnod pob mis, gan gynnwys un diwrnod bob mis mewn cyfarfod ffurfiol o'r Panel.

• Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd, rhaid i chi gyflwyno CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu eich atebion i'r pum cymhwysedd allweddol. Cewch ateb yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd y broses o ddewis aelod yn ystyried yr holl dystiolaeth a ddarparwyd. Bydd peidio â dangos sut y byddech chi'n diwallu'r cymwyseddau'n llwyddiannus yn effeithio'n uniongyrchol ar p'un ai fyddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ai peidio.

• Fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, bydd ymgeiswyr sy'n eu hystyried eu hunain yn anabl neu sydd â chyflwr hirdymor yn cael eu gwahodd am gyfweliad os ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Os ydych chi angen addasiad ar unrhyw gam o'r broses recriwtio, anfonwch neges e-bost i peopleteam@ofcom.org.uk neu ffoniwch ni ar +44 07885 553 450. Os ydych chi'n ffonio y tu allan i oriau swyddfa, gadewch neges ac fe wnawn ni gysylltu â chi.

• Ni chaiff Aelodau weithio'n uniongyrchol i sefydliadau y mae Ofcom yn eu rheoleiddio neu'n eu trwyddedu, na chael y mwyafrif o'u hincwm cyflogaeth gan gwmni o'r fath, hyd yn oed os nad ydynt yn gyflogedig iddynt. Ni all Aelodau gymryd rhan amlwg mewn gwleidyddiaeth. Mae hyn yn cynnwys dal swydd wleidyddol ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol neu ymgeisio am swydd o'r fath, cymryd rhan mewn ymgyrch wleidyddol i gefnogi plaid wleidyddol, a chyfrannu mwy na £7,500 i blaid wleidyddol mewn blwyddyn galendr. Mae gweithio'n llawn-amser i unrhyw adran o'r Llywodraeth Ganolog, neu fel swyddog yn y gwasanaeth sifil (gan gynnwys yn y gwledydd datganoledig) neu i lywodraeth leol, yn annerbyniol hefyd.

• Mae Ofcom yn gyflogwr cyfle cyfartal. Mae'n dymuno adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas gyfoes y DU ac felly mae'n mynd ati'n frwd i recriwtio aelodau o bob grŵp oedran a chefndir diwylliannol ac ethnig yn ogystal â'r rheini sydd ag anabledd. Bydd gwybodaeth ddienw am amrywiaeth yn cael ei chyfuno a'i rhannu â'r Adran dros Ddiwylliant, y

Cyfryngau a Chwaraeon mewn perthynas â phob ymgeisydd. O ran yr ymgeiswyr sy'n cael cyfweliad, sylwch y bydd data personol a thystiolaeth yn ymwneud â'ch cais yn cael eu rhannu â'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. https://www.ofcom.org.uk/cymru/about-ofcom/foi-dp/general-privacy-statement

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 23:59 ar 8 Ionawr 2020. Bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar 17 Ionawr 2020. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â contact@communicationsconsumerpanel.org.uk

 

 

Categories:

If you have any difficulties accessing content on this page, please email us at contact@communicationsconsumerpanel.org.uk