Vacancy - Panel Member for Wales / Swydd Wag - Aelod Panel ar ran Cymru
25 May 2023
Communications Consumer Panel and ACOD Member for Wales - vacancy
We are looking to appoint a new Member for Wales to the Communications Consumer Panel, who will also act as a Member of the Advisory Committee for Older and Disabled People (ACOD) and chair the Panel’s Stakeholder Hub for Wales.
Purpose of the role
The Communications Consumer Panel ensures the citizen and consumer voice is represented in communications policy development, highlighting the interests of those who may not always be heard by the industry. Our job is to ensure that the sector works for consumers, citizens and micro businesses - and in particular for people who may be more vulnerable to being excluded from using communications services.
The Panel is a statutory body, established under the Communications Act 2003. Its Members are appointed by Ofcom with the approval of the Secretary of State. The Panel’s remit covers the UK and, by statute, it has strong representation from the devolved nations.
When we anticipate consumer detriment, or identify it occurring, we work with those who can make a difference – Ofcom, communications providers and UK and national governments. Our sector specialism and expertise mean we can challenge in a constructive environment, offer comprehensive advice and influence the development of policy so it delivers for consumers and citizens
The Panel’s main role is to challenge and advise Ofcom to ensure that the interests of consumers, including micro businesses, are central to regulatory decisions. We act as a “critical friend” to Ofcom, rather than a campaigning organisation. We proactively influence decisions by making early, robust, high-quality interventions to ensure that consumer and citizen interests are at the heart of Ofcom’s thinking throughout.
The Panel works collaboratively with a wide range of stakeholders to inform the advice that it gives and to help protect and promote consumers’ interests across the sector. We give insight to businesses, regulators and Government and encourage them to look at issues through the eyes of people who use – or are excluded from using - communications services. ACOD advises Ofcom about the interests and opinions of older and disabled people living in the UK.
Essential competencies
The new Panel/ACOD member will help the Panel to become more aligned than ever with the needs of consumers, citizens and micro businesses in Wales. To apply to join the Communications Consumer Panel and ACOD you will need to show in your covering letter how you meet the competencies below. No previous experience of being a non-executive member is necessary.
- The ability to understand and articulate the varied needs and views of citizens and consumers in Wales, with particular reference to people who may be in more vulnerable circumstances/who have experienced barriers to inclusivity;
- Good knowledge and understanding of the political and constitutional context in Wales;
- Experience in advocating for, or working with, consumers or citizens or micro businesses;
- Strong communication skills to make an effective contribution to the discussions and formal policy responses of a high-level public body; and
- The ability to work as part of a committee.
Further Information
Panel Members are part-time and drawn from a range of diverse backgrounds. We are seeking applications from people who can contribute relevant experience and help create a diversity of perspective and background on the Panel. The core time commitment is four days a month, including one day a month at a formal Panel meeting. The successful applicant will also chair the Panel’s Stakeholder Hub for Wales, which requires an additional six days’ time commitment per year. The Panel operates on a hybrid-working basis – the role may include some travel to Cardiff or London. However, we do accommodate individuals’ needs and adjustments.
Members must not be directly employed by Ofcom or organisations that Ofcom regulates or licenses or derive the majority of their employment income from such a company even if not so employed. Members cannot be engaged in active politics. This includes holding, or being a candidate for, political office at a national, regional or local level, active political campaigning in support of a political party and making a donation or donations to a political party in a calendar year in excess of £7,500. Working full time for any central government department or as an official in the civil service (including in the devolved nations) or for local government is also not acceptable.
Potential or actual conflicts of interest from a financial or business perspective must be declared and discussed at interview. Applicants must have personal integrity of a high order and ensure that their conduct accords with the 7 principles of public life
The Chair is appointed from among the existing Members by Ofcom with the approval of the Secretary of State. When the role of Chair of the Panel is advertised, if the successful applicant for this current Panel/ACOD vacancy has been appointed, they, together with existing Panel Members, will be eligible to apply for the role of Chair. The Chair is expected to have a track record of performing a top leadership role and the ability to achieve consensus through balanced discussion. The Chair role carries an additional time commitment.
To apply, your application MUST include a CV and a covering letter – in written or equivalent accessible format. Should you require any adjustments to be made, please do contact us directly at ofcomresourcing@omnirms.com or on 0330 912 1378. We welcome both applications from Welsh speakers and applications in Welsh.
Your application must specifically explain how you meet the key competencies for the role which are detailed in the Essential Competencies section above, have an understanding of the role and demonstrate that you have relevant transferable skills. Covering letters should be no more than four sides of A4 in length. Please send your application to resourcing@Ofcom.org.uk
The deadline for applications is 23:59 on 11th June 2023. Interviews are expected to take place in late June and may be held virtually. For further information please contact resourcing@Ofcom.org.uk Please note that anonymised, aggregated diversity information will be shared with Department for Science, Innovation and Technology (DSIT) in relation to all candidates. For those candidates who are interviewed, please note that personal data and evidence relating to your application may be shared with DSIT.
As a Disability Confident employer, we guarantee to interview disabled applicants who meet the minimum selection criteria of the role as outlined in the job specification, if applicants would like to be considered under this scheme. We pride ourselves on ensuring all candidates are treated fairly throughout the application and selection process including making our process as accessible as possible. You can find more information on the scheme here. https://www.ofcom.org.uk/about-ofcom/jobs/disability-confident-scheme
Ofcom is committed to protecting your privacy in accordance with data protection legislation. We will handle your personal data in accordance with our General Privacy Statement and our HR Privacy Notice.
Aelod dros Gymru ar y Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau a'r Pwyllgor Cynghori ar Bobl Hŷn a Phobl Anabl (ACOD) - swydd wag
Rydym yn awyddus i benodi Aelod newydd dros Gymru i’r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau, a fydd hefyd yn gweithredu fel Aelod o’r Pwyllgor Cynghori ar Bobl Hŷn a Phobl Anabl (ACOD) ac yn cadeirio Hyb Rhanddeiliaid y Panel ar gyfer Cymru.
Pwrpas y swydd
Mae’r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau yn sicrhau bod llais dinasyddion a defnyddwyr yn cael ei gynrychioli wrth ddatblygu polisïau cyfathrebu, gan dynnu sylw at fuddiannau’r rheini nad ydynt bob amser yn cael eu clywed gan y diwydiant. Ein tasg yw sicrhau bod y sector yn gweithio dros ddefnyddwyr, dinasyddion a microfusnesau - ac yn enwedig pobl a allai fod mewn sefyllfa fwy bregus i gael eu heithrio rhag defnyddio gwasanaethau cyfathrebu yn y gymdeithas.
Mae'r Panel yn gorff statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003. Caiff ei Aelodau eu penodi gan Ofcom gyda chymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae cylch gwaith y Panel yn cynnwys y DU ac, yn ôl statud, mae ganddo gynrychiolaeth gref o’r gwledydd datganoledig.
Pan fyddwn yn rhagweld niwed i'r defnyddiwr, neu’n gweld bod hynny’n digwydd, rydym yn gweithio gyda’r rhai sy’n gallu gwneud gwahaniaeth, sef Ofcom, darparwyr gwasanaethau cyfathrebu, a llywodraeth y DU a’r llywodraethau cenedlaethol. Mae ein harbenigedd yn y sector yn golygu y gallwn herio mewn amgylchedd adeiladol, cynnig cyngor cynhwysfawr a dylanwadu ar y gwaith o ddatblygu polisïau er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni ar gyfer defnyddwyr a dinasyddion.
Prif rôl y Panel yw herio a chynghori Ofcom i sicrhau bod buddiannau defnyddwyr, gan gynnwys microfusnesau, yn ganolog i benderfyniadau rheoleiddio. ‘Cyfaill beirniadol’ i Ofcom ydyn ni, yn hytrach na sefydliad sy'n ymgyrchu. Rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i ddylanwadu ar benderfyniadau drwy wneud ymyriadau cynnar, cadarn o ansawdd uchel i sicrhau bod buddiannau defnyddwyr a dinasyddion wrth galon syniadau Ofcom drwy gydol y broses.
Mae’r Panel yn cydweithio ag amrywiaeth eang o randdeiliaid i lywio’r cyngor y mae’n ei roi ac i helpu i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau defnyddwyr ar draws y sector. Rydym yn rhoi cipolwg ar fusnesau, rheoleiddwyr a'r Llywodraeth ac yn eu hannog i edrych ar faterion drwy lygaid y bobl sy’n defnyddio - neu sy'n cael eu heithrio rhag defnyddio - gwasanaethau cyfathrebu. Mae'r Pwyllgor yn cynghori Ofcom ynghylch buddiannau a safbwyntiau pobl hŷn a phobl anabl sy'n byw yn y Deyrnas Unedig.
Cymwyseddau hanfodol
Bydd yr aelod newydd o'r Panel/Pwyllgor yn helpu'r Panel i fod yn fwy cyson nag erioed ag anghenion defnyddwyr, dinasyddion a microfusnesau yng Nghymru. I wneud cais i ymuno â’r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau a’r Pwyllgor Cynghori ar Bobl Hŷn a Phobl Anabl, bydd angen i chi ddangos yn eich llythyr eglurhaol sut rydych chi’n bodloni’r cymwyseddau isod. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o fod yn aelod anweithredol.
- Gallu deall a mynegi anghenion a safbwyntiau amrywiol dinasyddion a defnyddwyr yng Nghymru, gan gyfeirio’n benodol at bobl a allai fod mewn amgylchiadau mwy bregus/sydd wedi wynebu rhwystrau i gynhwysiant;
- Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o'r cyd-destun gwleidyddol a chyfansoddiadol yng Nghymru;
- Profiad o eirioli ar ran defnyddwyr neu ddinasyddion neu ficrofusnesau, neu weithio gyda nhw;
- Sgiliau cyfathrebu cadarn er mwyn cyfrannu'n effeithiol at y trafodaethau ac at yr ymatebion polisi ffurfiol sydd i'w cael mewn corff cyhoeddus ar lefel uchel;
- Gallu gweithio fel rhan o bwyllgor.
Rhagor o Wybodaeth
Mae Aelodau’r Panel yn rhan amser ac yn dod o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn chwilio am geisiadau gan bobl sy’n gallu cyfrannu profiad perthnasol a helpu i greu amrywiaeth o safbwyntiau a chefndir ar y Panel. Mae'r ymrwymiad amser craidd yn 4 diwrnod bob mis, gan gynnwys un diwrnod bob mis mewn cyfarfod ffurfiol o'r Panel. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cadeirio Hyb Rhanddeiliaid y Panel ar gyfer Cymru, sy’n gofyn am ymrwymiad amser ychwanegol o chwe diwrnod y flwyddyn. Mae’r Panel yn gweithredu ar sail gweithio hybrid – gall y rôl gynnwys rhywfaint o deithio i Gaerdydd neu Lundain. Fodd bynnag, rydym yn darparu ar gyfer anghenion ac addasiadau unigolion.
Ni chaiff Aelodau weithio'n uniongyrchol i Ofcom neu sefydliadau y mae Ofcom yn eu rheoleiddio neu'n eu trwyddedu, na chael y mwyafrif o'u hincwm cyflogaeth gan gwmni o'r fath, hyd yn oed os nad ydynt yn gyflogedig iddynt. Ni all Aelodau gymryd rhan amlwg mewn gwleidyddiaeth. Mae hyn yn cynnwys dal swydd wleidyddol ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol neu ymgeisio am swydd o'r fath, cymryd rhan mewn ymgyrch wleidyddol i gefnogi plaid wleidyddol, a chyfrannu mwy na £7,500 i blaid wleidyddol mewn blwyddyn galendr. Mae gweithio'n llawn-amser i unrhyw adran o'r llywodraeth ganolog, neu fel swyddog yn y gwasanaeth sifil (gan gynnwys yn y gwledydd datganoledig) neu i lywodraeth leol, yn annerbyniol hefyd.
Rhaid datgan unrhyw wrthdaro posibl neu wirioneddol rhwng buddiannau o safbwynt ariannol neu fusnes, a rhaid trafod hynny yn y cyfweliad. Rhaid i ymgeiswyr fod ag uniondeb personol o safon uchel a sicrhau bod eu hymddygiad yn cyd-fynd â 7 egwyddor bywyd cyhoeddus.
Bydd Ofcom yn penodi’r Cadeirydd o blith yr Aelodau presennol, gyda chymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol. Pan hysbysebir rôl Cadeirydd y Panel, os bydd yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd wag bresennol ar gyfer y Panel/Pwyllgor Cynghori ar Bobl Hŷn a Phobl Anabl wedi’i benodi, byddant hwy, ynghyd ag Aelodau presennol y Panel, yn gymwys i ymgeisio am rôl Cadeirydd. Disgwylir i’r Cadeirydd fod â hanes blaenorol o gyflawni rôl arwain o’r radd flaenaf a’r gallu i gael consensws drwy drafodaeth gytbwys. Mae gan rôl y Cadeirydd ymrwymiad ychwanegol o ran amser.
I wneud cais, RHAID i’ch cais gynnwys CV a llythyr eglurhaol – ar bapur neu mewn fformat hygyrch cyfatebol. Os bydd angen gwneud unrhyw addasiadau, cysylltwch â ni yn uniongyrchol yn ofcomresourcing@omnirms.com neu ar 0330 912 1378. Rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a cheisiadau yn Gymraeg.
Rhaid i’ch cais egluro’n benodol sut rydych chi’n bodloni’r cymwyseddau allweddol ar gyfer y rôl a nodir yn yr adran Cymwyseddau Hanfodol uchod, bod â dealltwriaeth o’r rôl a dangos bod gennych sgiliau trosglwyddadwy perthnasol. Ni ddylai eich llythyrau eglurhaol fod yn fwy na phedair ochr A4 o hyd. Anfonwch eich cais at resourcing@Ofcom.org.uk
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 23:59 ar 11 Mehefin 2023. Disgwylir i’r cyfweliadau gael eu cynnal ddiwedd mis Mehefin a gellir eu cynnal ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â resourcing@Ofcom.org.uk Cofiwch y bydd gwybodaeth ddienw, wedi’i chyfuno, am amrywiaeth yn cael ei rhannu â’r Adran dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) yng nghyswllt pob ymgeisydd. O ran yr ymgeiswyr sy'n cael cyfweliad, sylwch efallai y bydd data personol a thystiolaeth yn ymwneud â'ch cais yn cael eu rhannu â'r Adran dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg.
Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn gwarantu y byddwn yn cyfweld ymgeiswyr anabl sy’n bodloni meini prawf dethol sylfaenol y rôl fel yr amlinellir ym manyleb y swydd, os hoffai ymgeiswyr gael eu hystyried o dan y cynllun hwn. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei drin yn deg drwy gydol y broses ymgeisio a dethol, gan gynnwys gwneud ein proses mor hygyrch â phosibl. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael yma: https://www.ofcom.org.uk/about-ofcom/jobs/disability-confident-scheme
Mae Ofcom wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Byddwn yn trin eich data personol yn unol â’n Datganiad Preifatrwydd Cyffredinol a’n Hysbysiad Preifatrwydd Adnoddau Dynol