Beth y gellir ei wneud i gael pobl hyn ar-lein
Beth y gellir ei wneud i gael pobl hyn ar-lein (PDF)
5 Gorffennaf 2006
Mae nifer o bobl hyn nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd ac ni allant gael gafael ar nifer o wasanaethau hanfodol ar-lein. Ond mae ymchwil newydd gan Banel Defnyddwyr Ofcom wedi darganfod y byddai rhai yn cysylltu pe baent yn derbyn y math cywir o gefnogaeth i'w helpu i oresgyn eu hofnau. Dengys yr ymchwil 'Pobl Hyn a thechnoleg cyfathrebu' bod agwedd a chymeriad pobl hyn yn allweddol o ran bod ar-lein ai peidio. Dywed nifer o bobl hyn, a wrthododd ddefnyddio'r rhyngrwyd ar y cychwyn, y byddent falle yn cysylltu pe baent yn derbyn y gefnogaeth, y cymorth a'r amgylchedd dysgu cywir. Dywedant y byddai cyrsiau wedi'u dylunio ar gyfer, ac yn cael eu rhedeg gan bobl hyn, yn ogystal chynlluniau mentora, yn eu hannog i fynd ar-lein.
Dywed Colette Bowe, Cadeirydd Panel Defnyddwyr Ofcom
"Mae'r Panel yn cymryd gallu pobl h ŷ n i ddefnyddio'r dechnoleg hon yn ddifrifol iawn. Dyma fy nghenhedlaeth i; ac nid yw nifer ohonom yn ymwneud â'r byd cyfathrebiadau, sydd yn esblygu mor gyflym y dyddiau hyn, ag y mae pobl eraill. Gyda mwy a mwy o wasanaethau llywodraeth leol a chanolog ar-lein, yn ogystal â'r bargeinion gorau ar gyfer gwasanaethau masnachol, bydd pobl sydd heb gysylltu yn darganfod eu bod yn cael eu heithrio fwyfwy o'r byd cyfoes."
Mae ffigurau o arolwg marchnad y Panel Defnyddwyr yn dangos nad yw cymaint â 60% o bobl dros 65 oed yn deall y term band eang ac nid yw dros hanner yn mynd ar y rhyngrwyd oherwydd nad ydynt yn gweld unrhyw fudd mewn bod ar-lein.
Gyda phoblogaeth sydd yn gynyddol heneiddio gallai'r DU ddarganfod fod nifer o bobl hŷn wedi'u torri ymaith oddi wrth bob math o wasanaethau oherwydd nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd. Diben yr ymchwil newydd hwn gan y Panel Defnyddwyr yw deall beth sy'n gwneud i rai pobl hŷn ddefnyddio technolegau cyfathrebiadau a beth yw'r rhwystrau i'r rhai nad ydynt yn gwneud hynny.
Wrth siarad mewn gweithdy i drafod canfyddiadau'r adroddiad gyda llunwyr polisi allweddol, y Llywodraeth a diwydiant, dywedodd Colette Brown:
"Rydym eisiau i strategaeth ddigidol y Llywodraeth ddefnyddio'r gwersi a ddysgwyd gan gyrff sydd eisoes yn helpu pobl h ŷ n i fynd ar-lein.
"Mae Llywodraeth y DU newydd ymrwymo i haneru'r bwlch yn y defnydd o'r Rhyngrwyd erbyn 2010 ar gyfer grwpiau sydd mewn perygl o gael eu heithrio, fel pobl h ŷ n . Bydd y Panel yn gweithio'n agos gydag adrannau perthnasol y Llywodraeth i gyflawni'r nod hwn yn y DU."
Canfyddiadau allweddol
Mae agweddau tuag at fynediad Rhyngrwyd yn fwy cymhleth ac amrywiol nag a ragwelwyd. Datgelodd ymchwil bedwar grŵp agweddol amlwg:
‘Yr Amsugnwyr' oedd wedi dysgu defnyddio cyfrifiadur yn y gwaith ac sydd bellach yn rhan o'r oes ddigidol.
Yr amrediad amrywiol o ‘hunan ddechreuwyr' na chafodd unrhyw hyfforddiant yn y gwaith, sydd yn dangos nad yw ffactorau fel oed, incwm, lleoliad nac iechyd yn rhwystrau i fynd ar-lein.
Roedd y rhai nad ydynt yn defnyddio'r Rhyngrwyd yn eithaf cyson o ran eu rhesymau dros beidio â defnyddio'r Rhyngrwyd: roedd nifer yn ofnus o rywbeth dieithr, o'u gallu, o dorri'r cyfrifiadur neu o ymddangos yn ffôl. Y mwyafrif o'r rhai nad ydynt yn defnyddio yw'r rhai ‘wedi ymddieithrio' ac roeddent yn dangos diddordeb annisgwyl i fynd ar-lein. Doedd y lleiafrif, ‘y gwrthodwyr', o neiniau prysur i bobl fodlon gyda'u hobïau, yn gweld dim budd o ddefnyddio'r Rhyngrwyd.
Mae cynnal gweithdy heddiw yn gam cyntaf yn rhaglen blwyddyn Panel Defnyddwyr Ofcom i gynghori llunwyr polisi a'r diwydiant cyfathrebiadau i ddeall a mynd i'r afael gyda'r materion hyn.
Diwedd
Am ragor o fanylion cysylltwch â:
Siân Evans 020 8674 8921 neu 07752 41 44 33
media@communicationsconsumerpanel.org.uk
NODIADAU I OLYGYDDION
Sefydlwyd Panel Defnyddwyr Ofcom i gynghori Ofcom a chyrff eraill ar fuddiannau defnyddwyr yn y marchnadoedd y mae'n ei reoleiddio. Mae'r Panel yn annibynnol ac mae'n gosod ei agenda ei hun. Ewch i www.ofcomconsumerpanel.org.uk am ragor o wybodaeth am y Panel.
Cynhelir y gweithdy Pobl Hyn a thechnoleg cyfathrebiadau ar 5 Gorffennaf 2006 gyda llunwyr polisi allweddol mewn llywodraeth, diwydiant ac elusennau pobl hyn. Bydd y seminar yn edrych ar: y rhwystrau, galluogwyr ac atebion sydd yn effeithio ar lefelau cysylltedd pobl hyn, beth yw profiadau cyrff wrth gyflwyno rhaglenni i helpu pobl hyn i fynd ar-lein; sut mae polisau cyfredol yn helpu neu yn llesteirio cyfranogiad a sut y mae angen llunio polisau yn y dyfodol.
Datgelodd arolwg y Panel, Y Farchnad Gyfathrebiadau: 2006 bod un o bob tri pherson hyn yn berchen ar un yn unig o'r pedwar technoleg cyfathrebiadau (llinell ffn daearol, ffn symudol, Rhyngrwyd, teledu digidol)
Am gopi o Pobl hyn a thechnoleg cyfathrebiadau a'r Farchnad Gyfathrebiadau: 2006 ewch i'n gwefan ar www.communicationsconsumerpanel.org.uk neu cysylltwch Julia Guasch yn julia.guasch@communicationsconsumerpanel.org.uk neu ar 020 7783 4027.
Bydd Colette Bowe, Cadeirydd Panel Defnyddwyr Ofcom a John Carbis, Pensiynwr Chelsea, sydd yn rhedeg caffi rhyngrwyd y Chelsea Pensioner yn mynychu'r gweithdy a byddant ar gael ar gyfer cyfweliadau. Cysylltwch os gwelwch yn dda Sin Evans.
Mae'r DU wedi llofnodi cytundeb yr UE i haneru'r bwlch yn y defnydd o'r Rhyngrwyd erbyn 2010 ar gyfer grwpiau mewn perygl o gael eu heithrio. Mae'r cytundeb hwn hefyd yn ceisio cynyddu: sgiliau rhyngrwyd pobl; hygyrchedd gwefannau a derbyniad band eang. Datganiad Riga:
http://europa.eu.int/information_society/events/ict_riga_2006/index_en.htm